OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 3024 (Cy. 299) (C. 124)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 3) 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 3 Rhagfyr 2013 Ran 4 (Cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg) o Ddeddf 2013.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adrannau 38, 39, 97 a 98 |
26 Ebrill 2013 i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn ymwneud â gwneud a gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion
|
O.S. 2013/1000 (Cy.105) |
Adrannau 38 a 39 |
1 Hydref 2013 yn llawn |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Pennod 2 o Ran 3 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Pennod 3 o Ran 3 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Pennod 4 o Ran 3 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Pennod 5 o Ran 3 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Pennod 6 o Ran 3 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Adrannau 97 a 98 |
4 Mai 2013 yn llawn |
O.S. 2013/1000 (Cy.105)
|
Adran 99 |
1 Hydref 2013 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5
|
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Atodlen 2 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Atodlen 3 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4
|
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Rhan 2 o Atodlen 5 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 3024 (Cy. 299) (C. 124)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 3) 2013
Gwnaed 2 Rhagfyr 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 100 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r
Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 3) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 3 Rhagfyr 2013
2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â Rhan 4 (adrannau 84 i 87) o Ddeddf 2013 i rym yw 3 Rhagfyr 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2013